Skip to content

Telerau ac Amodau

Darperir mynediad at y wefan hon a’i defnydd gan Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth yn unol â’r telerau a’r amodau hyn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’r telerau hyn.

Defnyddio’r wefan

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig. Ni chewch ddefnyddio’r wefan mewn unrhyw ffordd a allai niweidio neu amharu ar ei hargaeledd neu ei hygyrchedd. Mae defnydd o’r wefan hon hefyd yn cael ei lywodraethu gan ein Polisi Preifatrwydd a’n Polisi Cwcis.

Defnyddiau gwaharddedig

Ni chewch:

  • Ceisio cael mynediad anawdurdodedig i unrhyw ran o’r wefan neu ei systemau;
  • Cyflwyno feirysau, meddalwedd faleisus neu feddalwedd niweidiol arall;
  • Defnyddio’r wefan mewn ffordd sy’n tarfu ar ei gweithrediad neu ar fynediad defnyddwyr eraill, neu’n ymyrryd â hynny.

Diogelwch

Ni ellir gwarantu bod unrhyw drosglwyddiad data dros y rhyngrwyd yn 100% diogel. Felly ni all Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth warantu y bydd gwybodaeth bersonol neu sensitif yn aros yn gyfrinachol wrth ei throsglwyddo dros y rhyngrwyd.
Caiff y wybodaeth bersonol a gasglwn gennych ar-lein ei storio gennym ar gronfeydd data a ddiogelir drwy fesurau diogelwch priodol. Fodd bynnag, ni all mesurau diogelwch o’r fath atal pob colled, camddefnydd neu newid i wybodaeth bersonol, ac nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddifrod nac atebolrwydd sy’n ymwneud â digwyddiadau o’r fath.

Dolenni i ac o safle Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth

Ni all Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefan arall a gyrchir drwy ddolen hyperdestun, ac nid yw’n rhoi unrhyw warantau, sylwadau na sicrwydd ynglŷn â hynny. Nid oes gan Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.

Argaeledd y gwasanaeth

Nid yw Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth yn gwarantu y bydd y wefan yn ddi-dor, yn rhydd rhag gwallau, nac yn rhydd rhag feirysau neu gydrannau niweidiol eraill. Mae’n bosibl y caiff mynediad ei atal dros dro am resymau cynnal a chadw neu dechnegol.

Cynnwys

Er bod pob ymdrech resymol wedi’i gwneud i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar adeg ei chyhoeddi, mae unrhyw un sy’n defnyddio’r wefan hon ac yn dibynnu ar unrhyw wybodaeth ynddi yn gwneud hynny ar ei risg ei hun. Nid yw Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth yn gwarantu cywirdeb y wybodaeth hon ac mae’n gwadu unrhyw atebolrwydd i unrhyw drydydd parti, unrhyw le yn y byd, am unrhyw anaf, difrod, colled neu anghyfleustra sy’n codi o ganlyniad i unrhyw ddefnydd o’r wybodaeth ar y wefan hon, neu anallu i’w defnyddio, hyd eithaf a ganiateir gan y gyfraith.

Hawlfraint

Mae enw Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth, ynghyd â’r holl logos, sloganau, enwau rhaglenni a dyluniadau, yn nodau masnach, marciau gwasanaeth, enwau masnach a hawliau dylunio Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth, ac ni chaniateir eu hatgynhyrchu heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Pan fo enwau, logos a nodau masnach trydydd partïon yn cael eu harddangos, cânt eu defnyddio gyda chaniatâd y perchnogion.

Mae hawlfraint y deunydd sydd ar y wefan hon yn eiddo i Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth neu, fel y bo’n berthnasol, i’w chyflenwyr cynnwys neu ei thrwyddedwyr. Ni ddylid dehongli dim sydd yma fel pe bai’n rhoi unrhyw drwydded i ddefnyddio unrhyw ddeunydd a arddangosir. Rhaid cael caniatâd gan ddeiliad perthnasol yr hawlfraint cyn atgynhyrchu unrhyw ddeunydd ar y wefan hon.

Cyfyngu ar atebolrwydd

Hyd eithaf a ganiateir gan y gyfraith, mae Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth yn eithrio atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol, damweiniol neu ganlyniadol sy’n deillio o ddefnyddio’r wefan hon. Nid oes dim yn y telerau hyn yn eithrio atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod, nac am unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio o dan y gyfraith berthnasol.

Manylion cyfreithiol a manylion cyswllt

Mae Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth yn elusen gofrestredig (Rhif 19262026). Cyfeiriad cofrestredig: 100 Parliament Street, Llundain SW1A 2BQ. Cyswllt: info@queenelizabethtrust.org.

Awdurdodaeth

Bydd y telerau a’r amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr, a bydd unrhyw anghydfod sy’n codi oddi tanynt yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.

Newidiadau i’r telerau hyn

Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru’r telerau hyn o bryd i’w gilydd. Mae parhau i ddefnyddio’r wefan yn golygu eich bod yn derbyn unrhyw newidiadau.