Skip to content
Queen Elizabeth smiles while greeting guests at an outdoor event, wearing a pink and green floral dress and pearls.
Members of The Ubele Initiative gathered outside a timber-clad community building on a sunny day, waving and posing around a table set with two celebration cakes.
Britain's Queen Elizabeth II views an art class at the Thomas Bennett Community College in Crawley, West Sussex.
Around 40 young people from My Life My Say gathered for a group portrait outside a timber-clad building, standing on a brick courtyard.
Queen Elizabeth II, accompanied by the Duke of Edinburgh (not in picture)talks to eight year old Nathan Dakoh during her visit to Chadwell Heath Community Centre where she met with local residents of all ages who use the facility.

Mae Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth yn elusen newydd sy’n gweithredu ledled y DU ac yn cefnogi cymunedau i adfer a chynnal mannau a rennir sy’n dod â phobl ynghyd ar draws cenedlaethau o bob cefndir.

Wedi’i hysbrydoli gan gred y Frenhines Elizabeth fod “pawb yn gymydog i ni”, mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithio law yn llaw â chymunedau, gan ddarparu cyllid a chymorth penodol i greu mannau a fydd yn ffynnu ymhell i’r dyfodol.

Members of The Ubele Initiative gathered outside a timber-clad community building on a sunny day, waving and posing around a table set with two celebration cakes.
Mae cymunedau angen adnoddau digonol a chynaliadwy – mannau wedi’u cynnal a’u cadw’n dda, gwasanaethau hygyrch, cyllid teg a grym gwirioneddol i wneud penderfyniadau – er mwyn iddynt allu ffynnu, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, a sicrhau budd cymdeithasol ac economaidd parhaol i bawb.
Yvonne Field OBE of The Ubele Initiative, smiling at the camera in a sunlit outdoor portrait.

Mae Yvonne Field OBE o The Ubele Initiative yn un o nifer o arweinwyr y buom yn siarad â nhw ynghylch sut y gallai Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth helpu cymunedau lleol i ffynnu.

Mae pawb yn gymydog i ni, ni waeth beth fo’u hil, eu crefydd na lliw eu croen. Mae’r angen i ofalu am gyd-ddyn yn llawer pwysicach nag unrhyw wahaniaethau diwylliannol neu grefyddol.
Y Frenhines Elizabeth
Queen Elizabeth smiles while greeting guests at an outdoor event, wearing a pink and green floral dress and pearls.

Ein Stori

Mae Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth yn elusen annibynnol a sefydlwyd yn 2026; mae’n un o dri phrosiect sy’n ymroddedig i anrhydeddu bywyd a gwasanaeth y Frenhines Elizabeth.

Mae ffocws yr elusen newydd hon wedi’i lunio drwy sgyrsiau ag unigolion a sefydliadau ledled y DU – o grwpiau cymunedol ac elusennau i arweinwyr lleol, llunwyr polisi a phartneriaid cenedlaethol, arbenigwyr y llywodraeth a’r sector cyhoeddus ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, cyrff hyd braich a rhaglenni etifeddiaeth mawr – gan ddod ag ystod gyfoethog ac amrywiol o safbwyntiau ynghyd.

Gyda’i gilydd, mae’r sgyrsiau hyn wedi helpu i greu elusen sy’n ymroddedig i adfywio mannau a rennir: un sy’n adlewyrchu uchelgais, amrywiaeth a chryfder cymunedau ar draws y pedair gwlad. Mae’r hyn a glywsom yn glir: mae cymunedau angen mannau y gallant eu galw’n rhai eu hunain, ynghyd â’r sgiliau, yr adnoddau a’r cymorth i’w helpu i ffynnu, nawr ac yn y dyfodol.

Bydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithio law yn llaw â chymunedau, gan ddarparu cyllid a chymorth penodol i wireddu eu huchelgeisiau, a gweithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad pellach i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor pob prosiect adfywio. Bydd ein dull yn un pwrpasol, wedi’i deilwra i anghenion pob cymuned.

Bu’r Frenhines Elizabeth yn siarad yn gynnes ac yn aml am werth cymdogion a chymuned drwy gydol ei bywyd, ac rydym yn falch o gario ei hymrwymiad yn ei flaen drwy’r gwaith hwn.

Rydym yn ddiolchgar i’r holl sefydliadau hyn ledled y DU am eu mewnbwn, eu cefnogaeth a’u harweiniad.

  • A
  • Al-Hilal Regeneration Enterprise
  • Association of Lord-Lieutenants
  • Association for Public Service Excellence
  • B
  • The Beacon Collective
  • Belfast Buildings Trust
  • Big Give
  • Brinnington Together
  • Building Communities Trust
  • C
  • Cambridge Centre for Social Innovation, University of Cambridge
  • Charity Commission
  • Cliftonville Community Regeneration Forum
  • Coalfields Regeneration Trust
  • The Community Foundation NI
  • Community Land Scotland
  • Community Organisers
  • Community Relations Council
  • Creative Scotland
  • Culture Counts
  • CVS Brent
  • D
  • Dane Bank Green Space
  • Department for Culture, Media and Sport
  • Department for Environment, Food and Rural Affairs
  • Development Trusts Association Scotland
  • Disability Wales
  • F
  • Fields in Trust
  • G
  • Generations Working Together
  • Greater Shankill Partnership
  • Green Flag Award
  • Greenspace Scotland
  • Groundwork
  • Groundwork NI
  • Groundwork Wales
  • Grow To Know
  • H
  • The Health Lottery Foundation
  • The Heritage Alliance
  • Historic Environment Scotland
  • Holywell Trust
  • I
  • Independent Commission on Neighbourhoods
  • Inspiring Scotland
  • Inter Faith Wales
  • Intergenerational England
  • Intergenerational Foundation
  • #iwill movement
  • K
  • The King’s Foundation
  • The King’s Gallery, Scotland
  • The King’s Trust
  • KORI Youth Charity
  • L
  • Lambeth Palace
  • The Land Trust
  • Libraries Connected
  • Linking Generations NI
  • Local Government Association
  • Local Places for Nature Programme
  • Local Trust
  • Locality
  • Loughborough University
  • M
  • Made in Stoke
  • Manchester Settlement
  • Metropolitan Mayors
  • Ministry of Housing, Communities and Local Government
  • N
  • National Association for Voluntary and Community Action
  • National Citizen Service
  • National Education Nature Park
  • National Federation of Parks and Green Spaces
  • National Library of Scotland
  • The National Lottery Community Fund
  • The National Lottery Heritage Fund
  • National Park City Foundation
  • National Records of Scotland
  • National Trust NI
  • Natural England
  • NESTA
  • NI Veterans Commissioner’s Office
  • North Manchester Community Partnership
  • Northern Ireland Office
  • Northern Ireland Rural Women’s Network
  • O
  • One Voice Wales
  • Outer Spaces
  • P
  • Phoenix Rising
  • Q
  • QED Foundation
  • The Queen Elizabeth II Commonwealth Trust
  • Queen’s University Belfast
  • R
  • Race Council Cymru
  • Roma Thematic Group
  • The Royal Countryside Fund
  • Royal Foundation
  • Rural Community Network
  • S
  • Scotland Funders’ Forum
  • Scotland’s Regeneration Forum
  • Scottish Community Development Centre
  • Scottish Council for Voluntary Organisations
  • Scottish Government
  • Scottish Youth Parliament
  • Sector 3
  • Slow Ways
  • T
  • The Together Coalition
  • Traditional Arts and Culture Scotland
  • U
  • The Ubele Initiative
  • UK Community Foundations
  • Ulster University
  • Ulster Wildlife
  • Uncommon Creative Studio
  • University of St Andrews
  • V
  • Voice4Change England
  • W
  • Wales Council for Voluntary Action
  • Welsh Government
  • Welsh Local Government Association
  • Wigan and Leigh Community Charity
  • Woodland Trust
  • WWF-UK
  • Y
  • YMCA North Staffordshire
  • York Minster
  • The Young Foundation
  • Young Manchester
  • Youth Leads UK
Around 40 young people from My Life My Say gathered for a group portrait outside a timber-clad building, standing on a brick courtyard.
Rwyf wedi gweld ymrwymiad Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth i roi llais pobl ifanc wrth galon ei gwaith, ac mae eu dull yn dangos potensial gwirioneddol i gefnogi cymunedau mewn ffyrdd ystyrlon.” Pan fydd pobl ifanc yn cael eu hymddiried i arwain, gallant chwarae rhan bwerus wrth drawsnewid y mannau o’u cwmpas.
Paris Habib, Squad Community Manager at My Life My Say, smiling at the camera in a studio portrait.

Mae Paris Habib, Rheolwr Cymunedol Squad yn My Life My Say, yn un o nifer o arweinwyr cymunedol y buom yn siarad â nhw ynghylch sut y gall Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth helpu cymunedau lleol i ffynnu.

Mae cymunedau yn rhoi ymdeimlad pwysig o berthyn inni, ac mae hynny’n angen dwfn ym mhob un ohonom. Rydyn ni i gyd yn profi adegau o lawenydd mawr, ac yn dioddef cyfnodau o dristwch dwys; mae’r llawenydd yn fwy, a’r tristwch yn llai, pan gaiff ei rannu.
Y Frenhines Elizabeth

Ein Tîm

Sir Damon Buffini, Chair of the Queen Elizabeth Trust, smiling at the camera in a studio portrait.

Syr Damon Buffini

Cadeirydd

Mae Syr Damon Buffini yn Gadeirydd y National Theatre a BBC Commercial Holdings. Roedd yn bartner sefydlol ac yn gyn Bartner Rheoli yn Permira. Arweiniodd Syr Damon Gronfa Adfer Diwylliannol gwerth £2 biliwn Llywodraeth y DU. Cafodd ei urddo’n farchog am ei wasanaethau dyngarol a gwirfoddol.

Alex Holmes OBE, Trustee of the Queen Elizabeth Trust, smiling at the camera in an outdoor portrait in a leafy parkland setting.

Alex Holmes OBE

Ymddiriedolwr

Mae Alex yn Ddirprwy Brif Weithredwr yn The Diana Award, yn Gyfarwyddwr yn BBC Children in Need, ac roedd yn aelod o Bwyllgor Coffa’r Frenhines Elizabeth, a fu’n cynghori ar y coffáu cenedlaethol. Yn 2017, enwyd ef yn Arweinydd Ifanc y Frenhines gan y Frenhines Elizabeth.

John Booth CVO, Trustee of the Queen Elizabeth Trust, smiling at the camera in a formal portrait taken at National Gallery.

John Booth CVO

Ymddiriedolwr

Mae John yn entrepreneur, yn ddyngarwr ac yn noddwr y celfyddydau, gyda phrofiad eang ar draws bywyd elusennol a chyhoeddus. Mae’n Gadeirydd Ymddiriedolwyr yr Oriel Genedlaethol a’r Royal Drawing School, yn Is-lywydd The King’s Trust, ac yn Ddirprwy Raglaw Gorllewin Sussex.

Sir Damon Buffini, Chair of the Queen Elizabeth Trust, smiling at the camera in a studio portrait.

Claire Whitaker CBE

Prif Weithredwr Dros Dro

Mae Claire yn Brif Weithredwr ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol medrus, gyda dros 25 mlynedd o brofiad ar lefel bwrdd ar draws diwylliant, iechyd, chwaraeon, addysg, tai, adfywio a thechnoleg. Yn gynhyrchydd diwylliannol, mae’n hyrwyddo tegwch a chynhwysiant ac yn chwarae rhan weithredol mewn llunio polisi ar draws sawl sector.

Roedd gan y Frenhines Elizabeth gred gref ac ymarferol ym mhwysigrwydd cymunedau i ddarparu sefydlogrwydd a chydlyniant cymdeithasol. Mae Ymddiriedolaeth y Frenhines Elizabeth yn adlewyrchu ei gwerthoedd drwy dargedu cymorth at fannau cymunedol lleol lle mae pobl yn cwrdd â’u cymdogion, yn helpu ei gilydd ac yn mwynhau’r ymdeimlad hanfodol hwnnw o berthyn.
Yr Arglwydd Janvrin, cyn Ysgrifennydd Preifat i’r Frenhines Elizabeth
Princess Elizabeth opened a holiday centre for young people at Avon Tyrell, Hampshire, where some 800 members of youth clubs and parties of school children from surrounding villages waited to greet her. The holiday centre, a house given by Lord Manners to the National Association of Girls' Clubs and Mixed Clubs, houses 150 people and has been renovated at a cost of £20,000, the money being part of a South African gift of £95,000 to the Association. The Princess performed the opening ceremony on the terrace and planted an oak tree in the garden. She was greeted by Lord and Lady Manners, Mrs. Walter Elliot, Lady Sybil Middleton and Mr. Leif Egeland, High Commissioner for South Africa. Picture Shows: Princess Elizabeth wearing a pale green silk check dress, white shoes and white hat trimmed with flowers, planting a scarlet oak tree in the garden of the youth holiday centre which she opened at Avon Tyrell, Hampshire.

Cwestiynau

Disgwyliwn wneud ein grant cyntaf yng ngwanwyn 2027.

Oes, gellir gwneud rhoddion unigol ar ein tudalen JustGiving. Bydd dolen i hyn yn cael ei phostio ar ein gwefan yn fuan.

Byddwn yn ariannu mannau cymunedol, gan roi pwyslais ar adfer, adnewyddu neu ddiweddaru mannau sy’n bodoli eisoes.

Cysylltu

Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth

Nid ydym yn derbyn ceisiadau am gyllid ar hyn o bryd.